Uwch dîm arwain

Cartref > Y Creuddyn > Y Teulu > Uwch dîm arwain

Miss Gwenno Mair Davies

Miss Gwenno Mair Davies

Pennaeth Mewn Gofal

Braint o'r mwyaf i mi ydi cael camu i swydd Pennaeth Mewn Gofal Ysgol y Creuddyn ar gyfer y cyfnod nesaf.

I sôn ychydig yn fwy am fy hun, rydw i’n gweithio yn Ysgol y Creuddyn ers dros bymtheg mlynedd bellach ac wedi bod yn aelod o Uwch Dîm Arwain yr ysgol ers dros saith mlynedd. Cefais fy mhenodi’n Ddirprwy Bennaeth yn 2020. Fel cyn-ddisgybl hefyd i'r ysgol arbennig hon, mae gwerthoedd y Creuddyn yn rhai yr wyf wedi fy nhrwytho ynddynt ac o’r herwydd, waeth beth fo’r swyddi y bum yn eu gwneud ar fy nhaith o ddysgu proffesiynnol yma, mae Dawn, Dysg a Daioni plant a phobl ifanc y Creuddyn wedi bod yn greiddiol i bopeth.

Hoffwn, drwy'r ddogfen yma eich cyflwyno i holl aelodau Uwch Dîm Arwain Ysgol y Creuddyn ar gyfer y tymor nesaf, ynghyd â rhannu gwybodaeth am eu prif gyfrifoldebau wrth i ni sicrhau sefydlogrwydd dros y cyfnod nesaf – a thrwy hynny, sicrhau yr addysg, y profiadau a’r gefnogaeth orau i’ch plentyn/plant yn ystod tymor olaf y flwyddyn academaidd hon. O adnabod yr aelodau yma o staff sydd yn arwain ar y meysydd amrywiol, rydw i'n ffyddiog ac yn gwbl hyderus fod gennym y tîm gorau o bobl er mwyn arwain yr ysgol ymlaen i'r cyfnod nesaf cyffrous yma sydd o'n blaenau.

Miss Eurgain Cartwright

Dirprwy Bennaeth Mewn Gofal

Dros y cyfnod nesaf, bydd Mrs Cartwright yn symud o fod yn Bennaeth Cynorthwyol i fod yn Ddirprwy mewn Gofal. Er y newid yn nheitl ei swydd, bydd yn parhau i ymgymryd â rhai o'r prif gyfrifoldebau fel ag yr oedd y tymor diwethaf, ond fe fydd, fodd bynnag yn cydweithio gyda Mr Arwel Roberts wrth ddirprwyo mewn unrhyw achos o absenoldeb y Pennaeth.

Miss Eurgain Cartwright sydd yn gyfrifol am:

  • Iechyd, Lles a Chynnydd Dysgwyr, ynghyd a lles staff.
  • Diogelu ac Amddiffyn Plant.
  • Strategaeth 'Pontio' o'r Cynradd i'r Uwchradd.
Miss Eurgain Cartwright
Mr Arwel Roberts

Mr Arwel Roberts

Dirprwy Bennaeth Mewn Gofal

Bydd Mr Arwel Roberts hefyd yn camu o fod yn Bennaeth Cynorthwyol i fod yn Ddirprwy Mewn Gofal am y tymor yma gan barhau i ymgymryd â'r cyfrifoldebau oedd ganddo yn ystod y tymor diwethaf ac fe fydd yntau, gyda Miss Eurgain Cartwright yn dirprwyo mewn unrhyw achos o absenoldeb y Pennaeth.

Mr Arwel Roberts sydd yn arwain ar:

  • Asesu (gan gynnwys trefniadaeth arholiadau allanol) ac Adrodd i Rieni ar gynnydd.
  • Calendr Ysgol a phrosesau Gwarantu Ansawdd.
  • Trefniadaeth dydd i ddydd Ysgol Gyfan.

Mrs Bethan Oliver Jones

Rheolwr Busnes

Mrs Bethan Oliver Jones yw Rheolwr Busnes yr ysgol, a hi sydd yn gyfrifol am holl agweddau ysgol gyfan yn ymwneud â:

  • Cyllid ac Adnoddau
  • Personel/Staffio
  • Adeilad a Chyfleustrau
  • Iechyd a Diogelwch
Miss Lisa Roberts

Miss Lisa Roberts

Pennaeth Cynorthwyol (Dros Dro)

Yn ystod y tymor yma, bydd Miss Lisa Roberts yn parhau gyda'i chyfrifoldebau, fel Pennaeth Cynorthwyol o arwain ar yr agweddau canlynol o fewn yr ysgol:

  • Dysgu ac Addysgu
  • Y Medrau.

Mrs Sioned James-Bevan

Pennaeth Cynorthwyol (Dros Dro)

Mae Mrs Sioned James-Bevan yn ymuno gyda'r Uwch Dim Arwain am y tymor yma, er nad dyma'r tro cyntaf iddi wneud hynny. Mae ganddi brofiad blaenorol o gydweithio fel aelod o Uwch Dim Arwain Ysgol y Creuddyn. Yn ystod y tymor nesaf, hi fydd gyda'r cyfrifoldeb am:

  • Dysgu Proffesiynol ar gyfer staff yr ysgol;
  • Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Allanol
  • Profiadau Dysgwyr
Mrs Sioned James-Bevan
Dr Gareth Evans

Dr Gareth Evans

Pennaeth Cynorthwyol (Dros Dro)

Aelod newydd i'r Uwch Dim Arwain ar gyfer y tymor yma, yw Pennaeth Mathemateg a chydlynydd Rhifedd yr ysgol ac awdur Mathemateg.com - Dr Gareth Evans.

Yn rhinwedd ei swydd ar yr Uwch Dim Arwain, Dr Evans fydd yn arwain ar ddatblygiadau Cwricwlwm i Gymru yn ogystal ag arwain ar strategaeth asesu newydd i gydweddu â'r Cwricwlwm newydd.

Uwch Dîm Arwain, Ysgol y Creuddyn

Uwch Dîm Arwain, Ysgol y Creuddyn, Tymor yr Hydref 2023.

Dyna gyflwyno felly'r tim o bobl sydd yn arwain ar agweddau ysgol gyfan o fywyd a gwaith Ysgol y Creuddyn dros y tymor nesaf. Tim o arweinwyr sydd yn angerddol am sicrhau'r gorau i blant, pobl ifanc a staff yr ysgol arbennig hon a thim a fydd yn ddi-flino yn ein hymdrechion i sicrhau fod yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.

Dawn Dysg Daioni