Chweched Dosbarth

Cartref > Dysg > Chweched Dosbarth

Chweched Dosbarth

Mae bod yn aelod o Chweched Dosbarth Ysgol y Creuddyn yn dod â breintiau a chyfrifoldebau. Mae’r ysgol yn ymgymryd i sicrhau ei bod yn cynnig addysg o’r ansawdd gorau posibl, tra’n disgwyl ymroddiad gan y myfyrwyr i fod yn aelodau cyfrifol o’r ysgol a’i chymdeithas. Mae ystafell gyffredin wedi’i neilltuo ar gyfer y Chweched Dosbarth ar gyfer ymlacio a chymdeithasu yn ystod cyfnodau digyswllt.

Mae myfyrwyr Blwyddyn 12 yn chwarae rhan bwysig o fewn yr ysgol drwy gefnogi a rhoi cymorth i ddisgyblion Blwyddyn 7 fel rhan o’r cynllun Bydis. Rydym yn cynnig digon o gyfleoedd i fyfyrwyr 16-18 yn Ysgol Y Creuddyn. Disgwylir i fyfyrwyr Chweched Dosbarth ymgymryd â gwaith annibynnol yn ogystal â mynychu gwersi ffurfiol. Mae’r llyfrgell ar gael ar gyfer gwaith annibynnol a chaniateir mynediad i’r ystafelloedd cyfrifiaduron, y gweithdai a’r ystafell gelf fel bo'n briodol.

Disgwylir i fyfyrwyr Chweched Dosbarth gydymffurfio â rheolau ysgol a gosod esiampl dda i’r disgyblion iau. Dylent ymarfer hunan-ddisgyblaeth a synnwyr cyffredin ar bob adeg.

Mae absenoldeb yn amharu ar gynnydd myfyrwyr a disgwylir iddynt fynychu’r ysgol yn rheolaidd. Pan mae absenoldeb yn anochel disgwylir iddynt roi gwybod i’r ysgol yn unol â rheolau’r ysgol.

Er ein bod yn cydnabod bod gan nifer o fyfyrwyr waith rhan amser, gofynnwn iddynt sicrhau nad yw hyn yn amharu ar eu gwaith ysgol.

Mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol i gael mwy o wybodaeth neu i drafod opsiynau.

Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Cymhwyster Lefel 3 newydd cyffrous yw'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSC Uwch) sy'n cefnogi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar, gan sicrhau bod y sgiliau ganddyn nhw ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol neu i fynd i mewn i'r farchnad swyddi. Dyluniwyd y cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer myfyrwyr 16-19 oed, a gellir ei sefyll ochr yn ochr â chymwysterau lefel 3 eraill, gan gynnwys Safon Uwch.

Cydlynydd Bagloriaeth Cymru Ysgol y Creuddyn: Mr Arwel Roberts

Pam astudio Dyfarniad Lefel 3 mewn Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch?

Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs Craidd ar wefan CBAC:

Taflen Opsiynau Agored

Beth yw Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch? - YouTube

Pynciau

Addysg Gorfforol

Astudiaethau Busnes

Bioleg

Celf a Dylunio

Cemeg

Cerddoriaeth

Cymraeg

Daearyddiaeth

Drama ac Astudiaethau'r Theatr

Iechyd a Gofal

Llenyddiaeth Saesneg

Mathemateg

Sbaeneg

Astudiaethau Crefyddol

Dawn Dysg Daioni