Cwricwlwm

Cartref > Dysg > Cwricwlwm

Gyda chwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, mae addysg yng Nghymru yn newid.

Mae Ysgol y Creuddyn yn ymrwymedig i gyflwyno’r cwricwlwm newydd o Fedi 2023 ymlaen.

  • Medi 2023: Blynyddoedd 7 ag 8.
  • Medi 2024: Blwyddyn 9.
  • Medi 2025: Blwyddyn 10.
  • Medi 2026: Blwyddyn 11.

Dawn, Dysg, Daioni

Bydd ein cwricwlwm yn seiliedig ar 'Dawn, Dysg, Daioni', sef arwyddair ein hysgol a'n gweledigaeth.

Datblygwyd y cwricwlwm mewn cydweithrediad â holl rhanddeiliaid yr ysgol. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Trafodaethau parhaus ymysg staff Ysgol y Creuddyn;
  • Cyfarfodydd efo’r clwstwr cynradd lleol;
  • Canfod barn y dysgwyr mewn cyfarfodydd o’r cyngor ysgol;
  • Trafodaethau’n ystod cyfarfodydd o’r corff llywodraethwyr llawn;
  • Cyfle i rieni lleisio barn mewn holiaduron a chyfarfodydd ar ôl ysgol.
Dawn - Dysgu - Daioni Poster wedi cael ei esbonio

Y Pedwar Diben

Calon y cwricwlwm newydd yw’r pedwar diben:

Bydd eich ysgol yn helpu eich plentyn i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol,galluog, sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfrannwr mentrus, creadigol, sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinesydd egwyddorol, gwybodus, sy'n barod i chwarae rhan yng Nghymru a'r byd, ac
  • unigolyn iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelod gwerthfawr o gymdeithas

Gelwir rhain yn bedwair diben y cwricwlwm.

Yn ystod ein cyfnod treialu rhwng Medi 2022 a Gorffennaf 2023, dyma rai o’r profiadau y cafodd ein dysgwyr blwyddyn 7 i gychwyn adlewyrchu’r pedwar diben.

 

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae'r cwricwlwm newydd wedi'i rannu i mewn i chwe maes dysgu a phrofiad gwahanol.

Map Blwyddyn 7

Ar gyfer Medi 2025, dyma grynodeb o gynnwys y gwersi ym mlwyddyn 7.

Map Blwyddyn 7

Map Blwyddyn 8

Ar gyfer Medi 2025, dyma grynodeb o gynnwys y gwersi ym mlwyddyn 8.

Map Blwyddyn 8

Map Blwyddyn 9

Ar gyfer Medi 2025, dyma grynodeb o gynnwys y gwersi ym mlwyddyn 9.

Map Blwyddyn 9

Asesu

Yn y cwricwlwm newydd, mae rhyddid i bob ysgol benderfynu ar ei threfniadau asesu ei hun. Yn Ysgol y Creuddyn, dyma egwyddorion ein system asesu:

  • Rydym yn defnyddio graddfa eang (1 i 200) ar gyfer mesur cyrhaeddiad. Mae hyn yn osgoi defnyddio labeli sydd yn rhy lydan, ac felly’n rhoi gwell cyfle o allu mesur cynnydd.
  • Rydym yn mesur cynnydd ar draws blynyddoedd, nid o fewn blwyddyn unigol.
  • Defnyddir y system No More Marking i adnabod, ar gyfer bob Maes Dysgu a Phrofiad, band cyrhaeddiad pob blwyddyn.
  • Mapio asesiadau pynciau unigol i’r band cyrhaeddiad, gan ddefnyddio system debyg i’r system Lefel A (trosi marc crai i farc graddau marciau unffurf (GMU)).

Gallwch ddysgu mwy am ein system asesu trwy ddarllen y blog yma gan ein pennaeth mathemateg a rhifedd.

Pontio

Yn ystod y cyfnod trosglwyddo o flwyddyn 6 i flwyddyn 7, bydd yr ysgol yn casglu data o’r ysgolion cynradd sy’n ein bwydo, ac yn rhedeg cyfres o asesiadau ar-fynediad, gan gynnwys y profion rhifedd a darllen cenedlaethol, a’r prawf CAT4 gan GL Assessment.

Adolygu

Bydd yr ysgol yn adolygu’n barhaus effeithiolrwydd ei chwricwlwm newydd, gan wneud addasiadau fel bo’r angen.

  • Mae nifer o becynnau gwaith yn gorffen efo holiadur byr i ddysgwyr ei lenwi er mwyn darparu eu hadborth ar y gwaith a gyflawnwyd.
  • Mae ein system asesu wedi’i gynllunio i ddarparu hyblygrwydd o ran sut gall athrawon gasglu data am gyrhaeddiad o flwyddyn i flwyddyn.
  • Darparu cyfleoedd i rieni roi eu hadborth mewn holiaduron ar-lein.
  • Bydd cyfarfodydd adrannol rheolaidd yn darparu’r amser i fireinio adnoddau addysgu.

Dawn Dysg Daioni