Diogelwch
Mrs Eurgain Cartwright
Dirprwy Bennaeth Dros Dro a Swyddog Gofal a Lles Plant
Mr Osian Hughes
Swyddog Gofal a Lles Plant
Ms Gwenno Davies
Pennaeth Mewn Gofal
Mae diogelwch a lles dysgwyr yn bwysig iawn yn Ysgol y Creuddyn.
Mae gan yr ysgol dîm o staff Diogelu Plant, wedi eu dangos uchod. Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch neu les eich hun neu unrhyw blentyn arall yna mae’n bwysig eich bod yn gadael i ni wybod. Gallwch wneud hyn trwy naill ai siarad gydag un o’r staff neu ffonio’r ysgol (01492 544 344).
Mae copi o Bolisi Diogelu Plant yr ysgol i’w weld ar wefan yr ysgol neu fe allwch gael copi caled o’r swyddfa (swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk neu 01492 544 344).
Ffonau Symudol
Nid yw’r ysgol yn caniatáu i ddysgwyr fod ym meddiant ffôn symudol tra ar dir yr ysgol.
Petai rhiant yn credu ei bod yn angenrheidiol fod eu plentyn yn gallu cael mynediad ar ffôn symudol, yna gallant ddod â’u ffôn i’r ysgol ac yna ei roi i mewn i’r swyddfa am y dydd.
Os yw dysgwr yn cael ei ddal gyda ffôn symudol yn ystod oriau ysgol, dilynir y drefn ganlynol.
-
Cymryd y ffôn oddi ar y disgybl a’i gadw hyd ddiwedd y diwrnod hwnnw. Cysylltir gyda’r rhiant/gwarcheidwad i hysbysu o’r ffaith ac i ofyn iddynt i gasglu’r ffôn.
-
Os oes amheuaeth resymol bod y ffôn wedi ei ddefnyddio mewn modd amhriodol yn yr ysgol (e.e. tynnu lluniau o fewn gwersi, ffilmio digwyddiadau yn yr ysgol ac ati) yna archwilir y ffôn ym mhresenoldeb y disgybl.
Gwefanau Cymdeithasol
Nid oes mynediad i wefannau cymdeithasol megis Facebook, Instagram neu TikTok drwy rwydwaith yr ysgol.
Mewn ymateb i nifer cynyddol o achosion o fwlio digidol a pheryglon cyffredinol gwasanaethau o’r math hyn, mae’r ysgol yn cynghori rhieni i fonitro defnydd eu plant o’r apiau yma, ynghyd ag annog y dysgwyr i rannu â’u rhieni unrhyw bryder sydd ganddynt am negeseuon, lluniau neu fideos y maent wedi eu gweld neu eu derbyn.
Dawn Dysg Daioni