Cyngor Ysgol
Cartref > Y Creuddyn > Y Teulu > Cyngor Ysgol
Sefydlwyd Cyngor Ysgol Y Creuddyn yn 2001. Bydd un cynrychiolydd o bob dosbarth yn cael ei ethol ar ddechrau'r flwyddyn ac yn yna'n mynychu cyfarfod bob mis.
Nodau:
Rhoi cyfle i ddisgyblion gyfrannu syniadau a mynegi barn am fywyd a datblygiadau o fewn Ysgol y Creuddyn. Cyfrannu at addysg bersonol a chymdeithasol y disgyblion yn arbennig o ran dinasyddiaeth.
2025-2026
Dyma gyflwyno ein Cyngor ysgol, Prif Ddisgyblion, Dirprwyon a’n Prif Swyddogion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 - 2026.
Roedd safon y cyflwyniadau eleni yn eithriadol o uchel, gan adlewyrchu ymroddiad a brwdfrydedd y disgyblion. Rydym yn gyffrous iawn i weld y criw newydd yn cymryd yr awenau wrth arwain ar brosiectau ac ar wahanol agweddau ar fywyd yr ysgol dros y flwyddyn nesaf. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt, rydym yn hynod falch ohonoch.
Prif Ddisgyblion
Brychan Williams & Elliw Owen
Dirprwyon
Robin Williams & Ifan Howes
Swyddog Chwaraeon
Cara Llwyd
Swyddog Marchnata
Laura Openshaw
Swyddogion Elusennau
Alys Huws & Ela Roberts
Gweledigaeth Elliw Owen ar ran y Prif Ddisgyblion
Anrhydedd llwyr yw cynrycholi Ysgol y Creuddyn fel Prif Ddisgybl ar gyfer y flwyddyn 2025-2026. Edrychaf ymlaen at barhau i gyd-weithio hefo holl athrawon, staff a disgyblion ein hysgol i sicrhau ysgol ddiogel ac hapus i addysgu a dysgu. Mae’n bwysig iawn imi ein bod yn clywed llais, syniadau, barn ac adborth holl bobl ein hysgol i sicrhau ein bod yn medru gwneud yr ysgol yr un orau ar eu cyfer. Yn dilyn, cyfres o gyfarfodydd hefo’r Cyngor Ysgol i drafod blaenoriaethau ysgol gyfan, mae modd i ni weithio i ddatblygu yr ysgol ymhellach.
Cymraeg yw iaith ein hysgol ni ac mae’n ganolbwynt pwysig iawn i ni. Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yma ac mae’n flaenoriaeth gennym i sicrhau fod pawb yn teimlo bod Ysgol y Creuddyn yn le diogel i gael y cyfle i ddefnyddio ac ymarfer y Gymraeg heb feirniadaeth. Y flwyddyn yma, ein blaenoriaeth aur yw Cymreictod ac y Gymraeg ac rydym yn gweithio yn galed i gwblhau yr Wobr Arian Siarter Iaith.
Rwyf yn edrych ymlaen at gefnogi yr elusen arbennig Plant Mewn Angen eto eleni. Mae trefniadau ar y gweill i drefnu digwyddiadau cyffrous a fydd yn digwydd yn ystod wythnos / Diwrnod Plant Mewn Angen i godi arian.
Mae’r flwyddyn nesaf yn argoeli i fod yn un gyffrous!
Cyngor Ysgol 2025-26
Mi rannodd Y Pennaeth flaenoriaethau'r ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon gyda'r Cyngor. Yn dilyn hynny roedd pob un aelod o'r Cyngor yn rhannu gyda eu dosbarth cofrestru gan drafod sut y bo modd i'r Cyngor gyfrannu at y blaenoriaethau.
Fe rannodd y Cyngor sut y bo modd iddynt hwy gyfrannu at y blaenoriaethau. Dyma rai o'r syniadau a rannwyd:
- Dathlu Pencampwr y Gymraeg bob hanner tymor yn seiliedig ar y nifer o bwyntiau a enillir ar Class Charts
- Y dosbarth gyda'r nifer uchaf o ystadegau presenoldeb i gael eu gwobrwyo fel dosbarth yn hytrach na fel unigolion.
- Tybed a oes modd creu clybiau amser cinio neu rannu 'sgil yr wythnos’ fel rhan o'r cyhoeddiadau dysgwyr.
Cafodd Cyngor yr Ysgol amser i drafod y canlynol:
- Enw ar gyfer y cae 3G newydd
- Egwyddorion ein gwersi – HYDER
- Sut i ddatblygu ymhellach ddysgwyr sydd yn gwbl ymrwymedig i’w gwersi
- Strategaethau addysgu effeithiol sy’n cael eu defnyddio yn Ysgol y Creuddyn
Roedd enghreifftiau o strategaethau effeithiol a drafodwyd yn cynnwys:
- Athrawon yn dewis disgyblion ar hap i gyfrannu
- Annog cyfranogiad gweithredol drwy ddefnyddio pwyntiau clod yn gyson
- Darparu gwersi diddorol a phleserus sy’n cynnwys elfen o gystadleuaeth i ysgogi dysgwyr
Gofynnwyd i Gyngor yr Ysgol ystyried beth sy’n gwneud Ysgol y Creuddyn yn ysgol arbennig, yn enwedig wrth ymweld ag ysgolion cynradd y dalgylch.
Roedd rhai o’r ymatebion yn cynnwys:
- Awyrgylch cryf, teuluol
- Athrawon caredig a chefnogol sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl
- Athrawon sy’n wirioneddol werthfawrogi ac yn gofalu am eu disgyblion
- Amrywiaeth eang o glybiau a gweithgareddau allgyrsiol gwerthfawr
- Cymuned agos lle mae pawb yn adnabod ei gilydd
- Dwy iaith sy’n cynnig dwywaith y cyfleoedd
Aeth y Cyngor ymlaen i drafod ystod o faterion eraill, gan gynnwys meysydd i’w datblygu, llyfrau gwybodaeth disgyblion, ac iechyd a diogelwch.
Dawn Dysg Daioni
