Gwybodaeth
Addysgu a Dysgu
Ysgol sy'n ceisio hyrwyddo ardderchogrwydd mewn addysgu, dysgu ac asesu ydy Ysgol Y Creuddyn. Credwn yn gryf mai prif nodwedd ysgol effeithiol ydy ysgol sy'n rhoi pwysigrwydd ar addysgu, dysgu ac asesu pob dysgwr.
Caiff amrywiaeth eang o ddulliau dysgu eu defnyddio yn ôl anghenion pwnc a'r grwp dysgu penodol. Rydym yn hyrwyddo'r defnydd o waith ymchwil, llafar, technoleg gwybodaeth a gwaith ymarferol mewn gwersi.
Yn Ysgol Y Creuddyn credwn yn y syniad o ddysgu gydol oes a'r syniad y dylai dysgu fod yn brofiad sy'n diddori ac ennyn ymroddiad y dysgwyr ac sy'n caniatau iddynt brofi llwyddiant. Wrth addysgu byddwn yn arfogi ein disgyblion gyda'r sgiliau, dealltwriaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau doeth am agweddau pwysig o'u bywyd.

Treulir cyfanswm o 25 awr yr wythnos yn dysgu yn ystod y pum mlynedd cyntaf o addysg uwchradd. Rhennir y diwrnod yn 6 gwers (50 munud) fel a ganlyn:
BLYNYDDOEDD 7, 8 a 9
Cyfnod Cofrestru / Bugeiliol / Gwasanaeth - 8:55am – 9:15am
Gwers 1 - 9:15am – 10:05am
Gwers 2 - 10:05am – 10:55am
Egwyl - 10:55am – 11:10am
Gwers 3 - 11:10am – 12:00pm
Gwers 4 - 12:00pm – 12:55pm
Amser Cinio - 12:55pm – 1:50pm
Gwers 5 - 1:50pm – 2:40pm
Gwers 6 - 2:40pm – 3:30pm
BLYNYDDOEDD 10, 11, 12 ag 13
Cyfnod Cofrestru / Bugeiliol / Gwasanaeth - 8:55am – 9:15am
Gwers 1 - 9:15am – 10:05am
Gwers 2 - 10:05am – 10:55am
Egwyl - 10:55am – 11:10am
Gwers 3 - 11:10am – 12:00pm
Gwers 4 - 12:00pm – 12:55pm
Amser Cinio - 12:55pm – 1:50pm
Gwers 5 - 1:50pm – 2:40pm
Gwers 6 - 2:40pm – 3:30pm
Y BLYNYDDOEDD CYNNAR
(gan ROLAND JONES, Y PENNAETH CYNTAF)
AMSER MAITH YN WIR
Newidwyd cwrs afon Conwy yn ystod Oes yr Iâ, “ac yn lle ymarllwys i’r môr ym Mae Penrhyn megis cynt, trowyd hi gan iâ Môr Iwerddon i ochr orllewinol y Creuddyn ym Mae Conwy”. Dyma restr o drefi’r Creuddyn - “Gogarth, Yr Wyddfid, Rhiwledin, Penrhyn, Bodafon, Gloddaith, Penlasog, Degannwy, Bodysgallen, Llanwyddan a Trefwarth.” Rhwygwyd cwmwd Creuddyn oddi wrth gantref Rhos oherwydd pwysigrwydd strategol hynafol Degannwy, ac felly daeth trefi Eirias, Penmaen a Llysfaen yn rhan o dir y goron yn sir Gaernarfon.
Hwyrach (medd yr Athro Geraint Gruffudd) mai Robert Gwyn o Benyberth (Llanbedrog) oedd awdur “Y Drych Cristionogol” ac fe argraffwyd y rhan gyntaf ohono mewn ogof yng nghreigiau Rhiwledin (Llandudno), 1586 - 7. Rhoddodd Robert Pugh o’r Penrhyn Creuddyn loches barod i’r offeiriaid cenhadol. Yng nghysgod y tai hyn, a’u tebyg, y nythai’r rhan fwyaf o’r gwrthodwyr Catholig. Gwelir eu henwau yng nghofnodion swyddogol y cyfnod: deuai’r mwyafrif ohonynt naill ai o’r Creuddyn a’r cyffiniau neu o ochr Caernarfon.
Dywedodd Alun Llewelyn-Williams yn ei lyfr “Crwydro Arfon” mai “lle rhyfedd yw’r Creuddyn heddiw”. Ymddangosodd ei gyfrol beth amser cyn sefydlu’r ysgol a chyfeirio y mae at y “cwmwd diarffordd” gwreiddiol sydd wedi “esgor ar un o’r trefi-glan-môr mwyaf poblog a phoblogaidd yng Nghymru”. Mynegodd hefyd mai Seisnigaidd oedd ardal y Creuddyn a bod rhaid “chwilio’n ddyfal am olion ac arwyddion o’r bywyd Cymraeg, ond fe ddeil y bywyd i lifo o dan y wyneb, ac ambell waith gall greu bwrlwm hoyw o hyd”.
Hyderwn fod yr Ysgol wedi gwireddu breuddwydion yr arloeswyr rhagorol - rhieni a chyfeillion niferus- a fu bennaf yn gyfrifol am sicrhau bodolaeth Ysgol y Creuddyn. Diolch o galon iddynt hefyd am eu caredigrwydd i’r ysgol dros y blynyddoedd.
AGOR YSGOL Y CREUDDYN
Agorodd Ysgol y Creuddyn ddydd Mercher, Medi 2, 1981, a bu Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy’n gymorth mawr o’r cychwyn cyntaf. Trosglwyddodd pump o athrawon o’r ysgol honno i’r Creuddyn a buont yn gaffaeliad i ni oherwydd eu profiad a’u hadnabyddiaeth o’r disgyblion, gan fod tua’u hanner hwy hefyd o Lan Clwyd. Gyda lleoliad Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn fe lanwyd y bwlch rhwng Ysgol Tryfan ym Mangor ac Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy.
Yr oedd ynddi 218 o ddisgyblion ar y dechrau, cant union ohonynt ym mlwyddyn 7, wedi dod atom o ysgolion cynradd y dalgylch. Roedd y gweddill ym mlynyddoedd 8 a 9, gyda’r rhan fwyaf ohonynt o Ysgol Glan Clwyd. Deuddeg ystafell ddysgu oedd ar gael bryd hynny a bu’n rhaid eu defnyddio fel labordai a gweithdai nes y cwblhawyd yr adeiladau. Un o dasgau cyntaf y Pennaeth Addysg Gorfforol oedd chwilio am ystafelloedd newid i’r plant a gludo darnau mawr o bapur dros y ffenestri plaen! Nid oedd gan yr ysgol gampfa na neuadd yn ystod y tair blynedd gyntaf, ond yr oedd y ffreutur ar gael o’r dechrau.
Dechreuwyd gyda phedwar ar ddeg o athrawon ac er gwaethaf amheuon rhai pobl ynghylch prinder athrawon cymwys i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd pob un ohonynt, yn ogystal â’r staff ategol i gyd, yn rhugl yn y Gymraeg.
YR ATHRAWON YN Y FLWYDDYN GYNTAF
Mr Roland Jones, Prifathro
Mrs Ellen Kent, Deganwy, (Athrawes Bro Ymgynghorol yng nghylch Llandudno), Dirprwy Brifathrawes.
Mr Dafydd Whittall, Llanrhaeadr ger Dinbych, (o Ysgol Glan Clwyd), Ail Ddirprwy, a Phennaeth (tros dro) ar y Gyfadran Iaith.
Mr Dewi Wyn Williams, Llandrillo yn Rhos, (o Ysgol Bryn Elian), Pennaeth y Gyfadran Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Mr Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn, (o Ysgol Aberconwy), Pennaeth y Gyfadran Astudiaethau Creadigol.
Mr John Hughes, Bryn Pydew, Llandudno, (o Ysgol Glan Clwyd), Pennaeth y Gyfadran Dylunio.
Mr Meurig Rees, Henllan, (o Ysgol Glan Clwyd ), Pennaeth y Gyfadran Dyniaethau.
Mr Derec Stockley, Llydaw, (gynt o Bontypridd ac yn athro yn Ysgol Rhydfelen), athro Ffrangeg.
Mr Robert Brynmor Owen, Hen Golwyn, (o Ysgol Botwnnog), Pennaeth Ffiseg ac athro Mathemateg.
Dr Brian Jones, Dwyran, (o Ysgol Tryfan, Bangor), Pennaeth Cemeg, ac yn athro Mathemateg.
Miss Olwen Williams, Yr Wyddgrug, (Ysgol Glan Clwyd), athrawes Saesneg.
Miss Enid Williams, Yr Wyddgrug, (Ysgol Treffynnon), gofalu am Ddawns, Drama ac Ymarfer Corff.
Mr Arwel Hughes Roberts, Glan Conwy, (Ysgol Penmaenrhos, gynt o Ysgol Glan Clwyd), gofalu am Addysg Adferol.
Miss Bethan Vaughan Griffith, Bangor, (o Ysgol Caerleon), athrawes Gwyddor Tŷ.
“Ofnwn ar y dechrau na fyddai digon o athrawon abl a phrofiadol yn ymgeisio am swyddi yn yr ysgol, ond di-sail oedd fy ofnau. Fel Cadeirydd y Llywodraethwyr am wyth mlynedd gallaf dystio fod gweledigaeth a dyfalbarhad yr arloeswyr wedi ei gyfiawnhau”. (O.M. Roberts)
Staff Ategol
Swyddfa
Miss Delyth Rees
Adnoddau
Mrs. Mary Williams
Gofalwr
Mr. William Roberts
Glanhawraig
Mrs. Susan Lloyd
Cegin:
Cogyddes
Mrs. Mona Lloyd
Cymhorthydd Cyffredinol
Mrs. Eirlys Jones
Mrs. Ceinwen Evans
Mrs. Jane Griffiths
Mrs. Mari Jones
Mrs. Valmai Davies
Gweithiwr Til
Mrs. Esther Williams
R AGORIAD SWYDDOGOL, 1984
Agorwyd gan y Cynghorydd O.M.Roberts, yn unol â dymuniad athrawon yr ysgol. Ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf y Corff Llywodraethol, ac un o’r amlycaf o’r ymgyrchwyr a sicrhaodd fodolaeth yr ysgol. Da oedd cael Mr Gwilym Humphreys, Cyfarwyddwr Addysg Gwynedd gyda ni, a hefyd Gyfarwyddwr Clwyd, Mr John Howard Davies. Bu Mr Humphreys yn dda hefyd, dros y blynyddoedd, am ddod, gyda’i wraig, i Ddramau a Sioeu Cerdd yr ysgol. Byddai bob tro’n anfon llythyr i ddiolch a chanmol.
COFIO AGORIAD YSGOL Y CREUDDYN AR ACHLYSUR DATHLU CHWARTER CANRIF YR YSGOL
gan Llinos Misra (née Davies), disgybl oedd yn y drydedd flwyddyn ar y pryd
Fe gawsom yr alwad ryw flwyddyn ynghynt
I adael Glan Clwyd a mynd ar ein hynt
Tua’r gorllewin, tua Gwynedd yn wir,
Lle ‘roedd ysgol newydd yn pontio dwy sir!
Ac felly ym Medi wyth deg ac un,
Gyda ffanffer a bwrlwm ac ambell i lun,
Agorwyd y Creuddyn, ysgol newydd – i ni,
Blant Clwyd a phlant Gwynedd – ac O! Dyna sbri!
Athrawon brwdfrydig – a dewr, am wn i! –
Yn dysgu blynyddoedd un, dau a thri.
Dim lle’r adeg hynny i flynyddoedd hŷn
Gan fod adeiladwyr yn dal ar y sîn!
Ac O! Am athrawon amryddawn a theg –
Pob un ohonynt – y pedwar ar ddeg.
Rhai’n dysgu pob math o bynciau’n y dechrau
Yn wahanol, mae’n siwr, i arbenigedd eu graddau!
A ninnau’r disgyblion yn cael digon o hwyl
Ar feysydd chwarae ac ar lwyfannau Gŵyl,
Yn smart o’n co’ yn ein llwyd a gwyrdd
A’r teis bythgofiadwy a’u symbolau fyrdd!
Dyddiau hapus felly, chwarter canrif yn ôl
A braf yn wir yw cael edrych yn ôl
A chofio’r holl gyffro a’r teimlad o berthyn
I le go arbennig – Ysgol Y Creuddyn!
YSGOL Y CREUDDYN
gan Nia Parry (cyn-ddisgybl)
Am saith mlynedd cefais loches dan ei llechi hi,
y gorlan ddiogel a’m gwnaeth i yn fi.
Yno ces i ‘nghusan gynta yng ngwaelod y cae,
a chael fy nal ym Mae Penrhyn a choblyn o ffrae.
Yno mi ddysgais be’ oedd ‘llif fwa fach’,
a phwy oedd Mozart, Handel, Beethoven a Bach.
Atgofion o chwarae hoci a rhedeg traws gwlad,
a dysgu pam mae’r ffarmwr yn hau yr had.
Dysgais am yr Iddew, yr Hindŵ a’i gred,
ac i fesur arwynebedd rhaid lluosi’r hyd efo’r lled.
Llosgais ambell i sgon, teisan spynj a phei,
ac arbrofi efo’r ffordd fwya’ cŵl o wisgo fy nhei.
Mi ges i’r fraint o ddarllen straeon byrion, nofel a cherdd,
a’r trôma o actio mewn drama yn gwisgo ffrog hyll werdd.
Oes, mae gennyf atgofion hapus di-ri,
ond yn fwy na dim dysgodd Creuddyn i mi
sut i garu fy iaith, fy nghenedl a’m gwlad,
a gwir ystyr y geiriau ‘gwladgarwyr tra mad’.
Am chwarter canrif bu hi’n fam i ni oll
yn dangos y ffordd ac yn helpu’r rhai oedd ar goll.
Diolch am gael lloches dan ei llechi hi,
y fynwes gysurus a’m gwnaeth i yn fi.
Y CREUDDYN
gan John Ffrancon Griffith, Abergele (cyn-bennaeth yr adran Gymraeg)
O dro i dro, o swrth lonyddwch mawr
y lli, pan fyddo’r grymoedd yn crynhoi
nes siglo’r cefnfor dwfn hyd eitha’i lawr,
fe gyfyd ynys newydd, gan gyffroi
yn ferw oll y dyfroedd ar bob tu.
A hon a saif yn greadigaeth wiw
yng nglesni’r môr, yr aeres lana’ ‘fu,
yn mynnu hawlio’i lle ymysg ei chriw.
A maes o law fe ddaw rhyw hyfryd ddydd
y cân y gwynt, y gwena brig y don,
y dadorchuddir cyfrinachau cudd
ei chlai; a ninnau’n gweld gogoniant hon,
yn bridd a choed, yn ddôl a nant a llyn,
a hithau’n werddon hardd i’r sawl a’i myn.
YSGOL Y CREUDDYN (2006)
gan John Gruffydd Jones, Abergele (cyn-riant)
Mae mwy i addysg na’r holl wersi maith,
A mwy i fywyd na holl olud byd,
Ac yn y dyddiau gwyrdd ar ddechrau’r daith
Mae angen sylfaen at y ffordd i gyd.
Mae mwy i gân na nodau du a gwyn,
Ac i farddoniaeth fwy na geiriau coeth,
Nid oes mewn rhifau er eu clyfrwch syn
Y wefr o wybod am y cain a’r doeth.
Ond magwyd hyder rhwng dy furiau di,
A chariad at barhad y gwerthoedd gwâr,
A gwybod sydd yn fwy na’n haddysg ni
Yw’r gwybod am berthnasedd milltir sgwâr.
Tydi yw sicrwydd ein bodolaeth ni,
Mae’n ddoe a’n ‘fory rhwng dy ddwylo di.
YSGOL Y CREUDDYN - 25 mlynedd
gan Alwyn Williams, Llansannan (cyn-riant)
Yn ddygn fe rydd ei hegni – ac â’i dysg
Ei dawn a’i daioni
Bob tymor mae’n angori
Ein hiaith a’n diwylliant ni.
Manyleb ar gyfer Cyrsiau TAG:
Llyfryn Dewisiadau Chweched Dosbarth 2022 - 2024
Manyleb ar gyfer Cyrsiau TGAU:
LLAWLYFR DEWISIADAU LLWYBRAU DYSGU 14 16 2022 - 2024
Gwefan CBAC
1. Crys/Blows wen.
2. Siwmper Gwddf V gyda logo’r ysgol.
3. Tei swyddogol yr ysgol (gwyrdd a streipiau melyn).
4. Trowsus hir, plaen, du – DIM JINS, LEGINS, TROWSUS ¾
5. Sgert blaen ddu o hyd rhesymol – hyd resymol i’w benderfynu gan staff yr ysgol.
6. Sanau hir, du, plaen – DIM FFRILIAU, DIM SANAU TREINYR.
7. Ni chaniateir cotiau tracwisg, siaced denim na siaced ledr na ‘hoodies’.
8. Dim cotiau, sgarffiau na hetiau yn y dosbarth.
9. Esgidiau ysgol/esgidiau ymarfer (trenars) lliw du yn unig -heb unrhyw liw arall arnynt e.e. logo gwyn/aur ayb.
10. Clustdlusau stud yn unig.
11. Dim “piercings” arall o gwbl.
12. Dim gorddefnydd o golur – i’w benderfynu gan staff yr ysgol.
13. Gwallt lliwiau naturiol-i’w benderfynu gan staff yr ysgol.
14. Gewinedd lliw naturiol yn unig a dim gewinedd ffug.
15. Gemwaith plaen – OND tynnu i ymarfer corff.
16. Siorts defnydd trowsus yn yr Haf (ar ol y Sulgwyn) – hyd pen glin – NID rhai ymarfer corff.
Mae’r dillad i’w gweld ac ar gael o:
Boppers Boutique
School Talk@Clifton House Newsagents
Mae’r pwyslais ar edrych yn SMART. Byddwch yn falch o’ch ysgol, eich gwisg a’ch edrychiad ac yn esiampl i weddill yr ysgol.
- Trowsus du smart (DIM jîns, trowsus tyn na throwsus o ddefnydd cynfas)
- Sgert glasurol ddu smart, o hyd parchus
- Crys gwyn / Blows wen a thei’r ysgol
- Siwmper ddu blaen siap gwddw V (DIM cardigan)
NEU
- Crys polo gwyn gyda logo’r ysgol
- Crys chwys du gyda logo’r ysgol
- Sanau/ Teits du plaen
- Esgidiau du addas i’r ysgol / Trenyrs du PLAEN (DIM logos/ streipiau lliw; DIM sodlau uchel)
- Bag ysgol addas
- Côt dywyll
Caniateir gwisgo os dymunir:
- Sgarff/Cap/Menig plaen tywyll
- Oriawr
- Un neu ddwy fodrwy fechan
- Clustdlysau bychan addas
- Un freichled fechan
- Colur ysgafn, cynnil
Ni chaniateir:
- Stỳds trwyn/ tafod a.y.b.
- Lliw/ Steil gwallt eithafol
Mae Gyrfa Cymru yn darparu cyngor, arweiniad a gwybodaeth am yrfaoedd sy’n ddiduedd ac am ddim, i gefnogi unrhyw un sy’n gwneud penderfynidau addysgol neu yrfaol.
Rydym yma i gynorthwyo pobl ifanc ac oedolion i wneud cynlluniau gyrfa a phenderfyniadau, er mwyn dewis yr hyfforddiant cywir, dysgu pellach neu gyfleoedd cyflogaeth.
Mae ein gwasanaethau yn canolbwyntio ar gefnogi cwsmeriaid i ddatblygu hunanymwybyddiaeth a dyheadau i’w arfogi i wneud penderfyniadau gyrfa effeithiol gydol oes.
Mae bod yn aelod o Chweched Dosbarth Ysgol y Creuddyn yn dod â breintiau a chyfrifoldebau. Mae’r ysgol yn ymgymryd i sicrhau ei bod yn cynnig addysg o’r ansawdd gorau posibl, tra’n disgwyl ymroddiad gan y myfyrwyr i fod yn aelodau cyfrifol o’r ysgol a’i chymdeithas. Mae ystafell gyffredin wedi’i neilltuo ar gyfer y Chweched Dosbarth ar gyfer ymlacio a chymdeithasu yn ystod cyfnodau digyswllt.
Mae myfyrwyr Blwyddyn 12 yn chwarae rhan bwysig o fewn yr ysgol drwy gefnogi a rhoi cymorth i ddisgyblion Blwyddyn 7 fel rhan o’r cynllun Bydis. Rydym yn cynnig digon o gyfleoedd i fyfyrwyr 16-19 yn Ysgol Y Creuddyn. Disgwylir i fyfyrwyr Chweched Dosbarth ymgymryd â gwaith annibynnol yn ogystal â mynychu gwersi ffurfiol. Mae’r llyfrgell ar gael ar gyfer gwaith annibynnol a chaniateir mynediad i’r ystafelloedd cyfrifiaduron, y gweithdai a’r ystafell gelf fel bo'n briodol.
Disgwylir i fyfyrwyr Chweched Dosbarth gydymffurfio â rheolau ysgol a gosod esiampl dda i’r disgyblion iau. Dylent ymarfer hunan-ddisgyblaeth a synnwyr cyffredin ar bob adeg.
Mae absenoldeb yn amharu ar gynnydd myfyrwyr a disgwylir iddynt fynychu’r ysgol yn rheolaidd. Pan mae absenoldeb yn anochel disgwylir iddynt roi gwybod i’r ysgol yn unol â rheolau’r ysgol.
Er ein bod yn cydnabod bod gan nifer o fyfyrwyr waith rhan amser, gofynnwn iddynt sicrhau nad yw hyn yn amharu ar eu gwaith ysgol.
Mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol i gael mwy o wybodaeth neu i drafod opsiynau.
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster i fyfyrwyr Chweched Dosbarth Ysgol Y Creuddyn. Mae'n cyfuno sgiliau datblygiad personol gyda chymwysterau sy'n bodoli eisoes i ffurfio un dyfarniad ehangach sy'n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr a phrifysgolion. Ceir profiadau ehangach na'r rhaglenni dysgu traddodiadol ym Magloriaeth Cymru.
Amcanion
Nod Bagloriaeth Cymru yw cynnig cwricwlwm ehangach a mwy cytbwys i'r myfyrwyr gan helpu'r myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y mae sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr am iddynt eu cael pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Mae'r pwyslais ar ddysgu trwy wneud, a rhoddir yr un gwerth ar gymwysterau academaidd a galwedigaethol.
Cydlynydd Bagloriaeth Cymru Ysgol Y Creuddyn: Mr Arwel Roberts
Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs Craidd ar wefan CBAC.
Mae gan bob dysgwr ym mhob ysgol yr hawl i ddysgu heb ofn cael eu bwlio, beth bynnag yw’r math hwnnw o fwlio. Mae’n rhaid i bawb sy’n ymwneud ag addysg dysgwr gydweithio i sicrhau mai dyna beth sy’n digwydd. Mae’n rhaid i ni yma yn Ysgol y Creuddyn fynd ati’n weithredol i ymdrin â phob math o fwlio, a dylem gymryd camau i atal ymddygiad bwlïaidd yn ogystal ag ymateb i ddigwyddiadau pan fyddan nhw’n codi.
Natur bwlio
Defnyddir sawl diffiniad o fwlio, ond mae’r mwyafrif yn ei ystyried yn weithred sy’n:
- fwriadol niweidiol (gan gynnwys ymddygiad ymosodol)
- digwydd yn aml dros gyfnod o amser, gan gydnabod gall un digwyddiad yn unig achosi trawma i’r dysgwr a’i adael yn poeni y bydd yn digwydd eto
- anodd i ddioddefwyr amddiffyn eu hunain yn ei erbyn.
Mae barn dysgwyr unigol am yr hyn a olygir wrth fwlio hefyd yn elfen allweddol i’w hystyried.
Mae sawl gwahanol fathau o fwlio, ond y tri phrif fath o fwlio yw:
- corfforol – bwrw, cicio, cymryd eiddo, aflonyddu rhywiol neu ymosodiad
- llafar – galw enwau, sarhau, gwneud sylwadau tramgwyddus
- anuniongyrchol – lledu storïau cas am rywun, eithrio o grwpiau cymdeithasol, bod yn destun sïon maleisus, anfon negeseuon e-bost neu negeseuon testun maleisus ar ffonau symudol.
Dogfennau
1. Seiberfwlio
2. Bwlio rhywiaethol, rhywiol a thrawsffobig
4. Bwlio ar sail hil, crefydd a diwylliant.pdf4 Bwlio ar sail hil, crefydd a diwylliant
Mae'r rhyngrwyd a'r technolegau cymdeithasol yn cynnig posibiliadau enfawr o ran dysgu ac ymchwilio, cyfathrebu a chydweithredu, ac o ran creadigrwydd di-ben-draw, ac mae'n bwysig i ni gofio'r neges gadarnhaol honno.
Mae'n anodd ac yn aml yn heriol i wybod y diweddaraf am y dechnoleg y mae eich plant yn defnyddio; beth maen nhw'n ei wneud ar-lein, â phwy maen nhw'n cael sgwrs, pa gemau maen nhw'n eu chwarae, a beth maen nhw'n ei lawrlwytho ac yn ei wylio.
Ar y dudalen yma rydym yn cynnig cyngor ar sut i gefnogi eich plentyn pan yn defnyddio'r we a'r cyfryngau cymdeithasol.
1. Gwybodaeth ac adnoddau ar-lein
2. Cychwynwyr sgyrsiau i rieni a gofalwyr
4. Beth allaf i ei wneud os yw fy mhlentyn yn cael ei seiberfwlio
5. Mae fy mhlentyn o dan oed, ond wedi creu proffil rhwydweithio cymdeithasol. Beth ddylwn i ei wneud
6. Sut ydw in trafod pornograffi ar-lein gydam mhlentyn yn ei arddegau
7. Dwi wedi darganfod bod fy mhlentyn yn secstio. Beth ddylwn i a fy mhlentyn wneud nesaf
8. Dwin meddwl bod fy mhlentyn wedi gweld pornograffi ar-lein - beth allaf i ei wneud
Gwybodaeth am weithdrefnau a phrosesau presenoldeb a phrydlondeb yr ysgol.
Dawn Dysg Daioni