Gweledigaeth

Cartref > Y Creuddyn > Gweledigaeth

Dawn, Dysg, Daioni - poster yn esbonio

Ethos, Gwerthoedd a Lles

Un o gryfderau mwyaf yr ysgol yw ei hethos Cymreig, gofalgar, agored a hapus ble mae'r disgyblion yn teimlo'n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg. Ein prif nod fel ysgol yw gwneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus a hynny yn bennaf trwy ddefnyddio dulliau dysgu ac addysgu diddorol a gweithredol yn ein gwersi. Mae Ysgol Y Creuddyn yn ceisio creu ethos a gwerthoedd sy'n sail i ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. Hoffem feddwl ein bod yn cydweithio i sefydlu amgylchedd sy'n cynnwys:

  • Disgyblion Hapus
  • Disgyblion Dwyieithog
  • Disgyblion Gweithgar
  • Cyfle Cyfartal
  • Awyrgylch Fywiog a Chreadigol i Hyrwyddo'r Dysgu

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol.

Ethos Cymreig sydd yn perthyn i’r ysgol ac fe gynllunir yn fwriadol i greu awyrgylch mor naturiol Gymraeg a Chymreig ag y bo modd. Hyderwn y bydd y disgyblion yn falch eu bod yn Gymry, yn deall Cymraeg ac yn gallu siarad yr iaith. Mae disgwyl iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol. Cynigir cyfran helaeth iawn o’r addysg drwy’r Gymraeg gan ddiogelu hyfedredd y disgyblion mewn dwy iaith.

“Mae cyfrannu at ddiwylliant Cymreig a Chymraeg trwy weithgareddau’r Urdd ac Eisteddfodau yn allweddol bwysig i’r ysgol.”

Pennaeth

Dawn Dysg Daioni