Siarter Iaith

Cartref > Y Creuddyn > Y Teulu > Siarter Iaith

Yr ysgol uwchradd gyntaf yng Nghonwy i ennill gwobr efydd y Siarter Iaith.

Logo Siarter Iaith

Ysgol y Creuddyn ydi’r ysgol uwchradd gyntaf yn sir Conwy i ennill gwobr efydd y Siarter Iaith.

Mae’r Siarter Iaith, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod ar waith mewn ysgolion cynradd ers 2016 a chafodd ei chyflwyno i ysgolion uwchradd Cymraeg yn 2024.

Dyluniwyd y siarter i ategu’r cwricwlwm drwy hyrwyddo defnydd disgyblion o’r Gymraeg a chodi eu hymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymreig, gan geisio ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg a mwynhau’r Gymraeg ymhob agwedd ar eu bywydau.

Buom yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn academaidd ddiwethaf i gynnwys y Siarter Iaith yn ein gweithgareddau dyddiol. Mae gweithgareddau’r ysgol wedi cynnwys dathlu Dydd Santes Dwynwen a Dydd Miwsig Cymru. Rydym hefyd wedi bod ar deithiau preswyl i ganolfan yr Urdd yng Nglan Llun, wedi cynnal Eisteddfod ysgol, gwahodd siaradwyr i siarad am gyfleoedd astudio a gwaith yn Gymraeg, ac wedi dysgu am draddodiadau, hanes a diwylliant Cymreig.

Yn dilyn ymweliad dilysu llwyddiannus ddiwedd mis Mehefin, cyflwynwyd eu tystysgrif iddynt.

Meddai Miss Gwenno Davies, Pennaeth Ysgol y Creuddyn: “Rydym ni’n hynod falch mai ni ydi’r ysgol uwchradd cyntaf yn y sir i gyflawni Gwobr Efydd y Siarter. Mae’n adlewyrchu ein brwdfrydedd, ein creadigrwydd a’n hymrwymiad i’n disgyblion a’n staff. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau â’r daith tuag at y Wobr Arian.”

Meddai Dr Morgan Dafydd, Cydlynydd y Siarter Iaith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda’r ysgol. Mae eu brwdfrydedd dros y Gymraeg yn disgleirio ym mhopeth a wnân nhw, ac maen nhw’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth yma. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio efo nhw wrth iddyn nhw barhau â thaith y Siarter.”

Meddai’r Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Rydw i’n falch iawn bod Ysgol y Creuddyn wedi cyflawni’r wobr hon. Mae’n adlewyrchu gwaith caled pawb yn yr ysgol i greu ethos Cymreig cryf.”

Hwb Siarter Iaith

Dawn Dysg Daioni